RWE Pembroke Green Hydrogen | RWE in the UK
RWE Pembroke Green Hydrogen | RWE in the UK

Hydrogen Gwyrdd RWE Penfro

Mae RWE yn bwrw ymlaen â chynigion i ddatblygu cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd ar dir RWE gerllaw Gorsaf Bŵer bresennol Penfro.

Bydd RWE Pembroke Green Hydrogen yn hwyluso'r gwaith o gynhyrchu hydrogen gwyrdd. Cynhyrchir hydrogen gwyrdd o ddŵr, gan ddefnyddio ynni a geir o ffynonellau adnewyddadwy. Yna gellir defnyddio’r hydrogen i ddatgarboneiddio gweithgareddau diwydiannol lleol yn Ne Cymru, drwy ddisodli’r tanwyddau ffosil a ddefnyddir ganddynt ar hyn o bryd.


Ein Cynigion

Byddai RWE Pembroke Green Hydrogen wedi'i leoli ar safle RWE i'r gorllewin o Orsaf Bŵer Penfro a byddai'n elwa o gael ei sgrinio'n dda rhag cymunedau lleol, tra byddai modd mynd ato ar hyd ffordd fynediad bresennol yr orsaf bŵer. Yn rhan o’r cais cynllunio, mae RWE wedi cynnal ystod eang o asesiadau i ddeall a allai'r datblygiad gael unrhyw effeithiau ar yr amgylchedd a'r gymuned leol.

Byddai ein cynigion yn cynnwys gwaith electrolysis 100-110MWe, yn ogystal â seilwaith cysylltiedig a phiblinell 1.5km i gysylltu â diwydiant cyfagos. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y safle yn gallu cynhyrchu 2 dunnell fetrig o hydrogen bob awr.

Disgwylir i ddefnyddio'r hydrogen hwn, mewn diwydiant lleol, arwain yn uniongyrchol at ostyngiad o ryw 93,000 tunnell o allyriadau CO2 bob blwyddyn. Mae'r arbediad CO2 hwn yn cyfateb i dynnu 18,600 o geir oddi ar y ffordd bob blwyddyn.

I ddysgu rhagor, edrychwch ar y dogfennau cynllunio drafft ar-lein yn y Llyfrgell Ddogfennau.

Ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, cynhaliodd RWE Generation yfnod ymgynghori cyn ymgeisio o 28 diwrnod ddydd Llun 22 Ebrill 2024, a derbyniwyd adborth tan 11:59pm ar ddydd Llun 20 Mai 2024.

Gallwch weld y dogfennau cynllunio drafft ar-lein yn y Llyfrgell Ddogfennau.

Datgarboneiddio diwydiant yn Ne Cymru

Er bod y diwydiant ynni cenedlaethol wedi bod yn gwneud cynnydd tuag at ddatgarboneiddio, ni ellir trydaneiddio llawer o brosesau diwydiannol, ac maent yn dal i ddibynnu ar danwydd ffosil. I gefnogi datgarboneiddio diwydiant, mae Llywodraeth y DU wedi gosod targed i ddarparu 6GW o gapasiti cynhyrchu hydrogen gwyrdd erbyn 2030 gan y gellir defnyddio hydrogen i ddatgarboneiddio diwydiant lleol drwy ddisodli eu defnydd o danwydd ffosil.

Mae’r Llywodraeth wedi nodi bod De Cymru yn addas ar gyfer cynhyrchu hydrogen carbon isel a bydd RWE, yn rhan o Glwstwr Diwydiannol De Cymru, yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i ysgogi datgarboneiddio ar draws prosesau diwydiannol y rhanbarth. Mae RWE yn bartner yng Nghlwstwr Ynni Dyfrffordd Aberdaugleddau, sef Canolfan Twf Glân SWIC, – sy’n anelu at gyflawni 20% o darged cynhyrchu hydrogen carbon isel Llywodraeth y DU erbyn 2030 ac o leiaf 10% o darged ynni gwynt ar y môr arnofiol y Môr Celtaidd erbyn 2030. Mae Dyfrffordd Aberdaugleddau yn ased ynni hollbwysig sydd wedi'i anelu at ddarparu sylfaen annibyniaeth ynni'r DU.

RWE’s vision for the Celtic Sea

Trwy gynhyrchu hydrogen ym Mhenfro, ochr yn ochr â seilwaith ar draws Dyfrffordd Aberdaugleddau (MUST), gall RWE helpu i ddarparu ynni glân amgen i ddiwydiant yn Ne Cymru.


Ein gweledigaeth ar gyfer Canolfan Sero Net Penfro

Mae gan weledigaeth RWE ar gyfer Canolfan Sero Net Penfro ran hollbwysig i'w chwarae ar lwybr Cymru a'r DU i Sero Net. Drwy ddatgarboneiddio ei weithrediadau presennol yng Ngorsaf Bŵer Penfro, wrth fuddsoddi mewn technolegau arloesol newydd ar y safle, gall RWE roi Penfro ar flaen y gad o ran dyfodol carbon isel de Cymru.

Mae ein cynigion ar gyfer RWE Pembroke Green Hydrogen yn rhan o’r uchelgais hwn, gan gyfrannu at ein gweledigaeth ar gyfer Canolfan Sero Net Penfro – hyb arloesi carbon isel a chynhyrchu ynni glân a fydd yn helpu i ddatgarboneiddio diwydiant o bwysigrwydd cenedlaethol a’r sector ynni yng Nghymru a’r DU gyfan am genedlaethau i ddod.

Pembroke Net Zero Centre logo | RWE

Bydd uchelgeisiau RWE ar gyfer Canolfan Sero Net Penfro yn adeiladu ar dreftadaeth ynni hanesyddol Aberdaugleddau, gan ddiogelu swyddi lleol presennol, gan sicrhau buddsoddiad economaidd lleol sylweddol a chreu swyddi newydd drwy gydol y cyfnod adeiladu a gweithredu.

Os hoffech chi siarad ag aelod o dîm prosiect RWE Pembroke Green Hydrogen, mae croeso ichi gysylltu â ni. Rydym yma i ddarparu gwybodaeth, ateb unrhyw gwestiynau ac i gymryd eich adborth.


Hydrogen Gwyrdd RWE Penfro

Dîm prosiect

Ysgrifennwch: Freepost PNZC Consultation