Mae RWE yn archwilio’r potensial o adeiladu fferm wynt i’r dwyrain o dref Abertyleri, ac i’r gorllewin o dref Abersychan. Mae'r safle wedi'i leoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cymru.
Y cynnig yw fferm wynt chwe thyrbin gydag uchder blaen y llafn o hyd at 200m. Byddai’r trydan posibl a fyddai’n cael ei gynhyrchu’n cyfateb i anghenion 50,000* o gartrefi yn y DU – nifer tebyg i gyfanswm nifer yr aelwydydd yn Nhorfaen ei hun.
Ers lansio ei gynigion, mae RWE Renewables wedi gweithio’n agos gyda’r gymuned ac wedi ymgynghori’n helaeth. Rydym wedi cynnal asesiadau ac arolygon helaeth ar y safle, wedi cynnal trafodaethau gyda phartïon â diddordeb, wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ac wedi casglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.
Ar ôl adolygu'r holl adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad, mae'r tîm wedi cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). Mae'r cais hwn bellach wedi'i dderbyn i'w ystyried gan PCAC.
*Mae'r ynni y rhagwelir y bydd y cynnig yn ei gynhyrchu’n deillio o ddefnyddio cyflymderau gwynt a fonitrwyd yn yr ardal leol ac sy'n cyfateb i ddata tywydd hanesyddol tymor hwy gan ddefnyddio modelau meteorolegol wedi'u hadu â data a gafwyd o systemau mesur lloeren, seiliedig ar wyneb ac yn yr awyr. Mae’r ffigur cartrefi cyfatebol a gyflenwir yn seiliedig ar ddefnydd trydan domestig cymedrig blynyddol o 3,126 kWh fesul cartref yng Nghymru o ystadegau diweddaraf yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (Defnydd Is-genedlaethol Trydan, Prydain Fawr, 2005-2022, defnydd trydan domestig cymedrig blynyddol (kWh fesul cartref) ar gyfer Cymru, 2022 (https://bit.ly/3QRaYHv) Ystadegau defnydd trydan rhanbarthol ac awdurdodau lleol (www.gov.uk)). Ffigurau wedi'u talgrynnu.