Mae safle arfaethedig Fferm Wynt y Gaerwen RWE i'r de-orllewin o Gorwen ac i'r gogledd-ddwyrain o'r Bala. Mae'r datblygiad arfaethedig yn pontio'r ffin rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwynedd.
Ers 2020, rydym wedi cynnal asesiadau ar y safle, cynnal trafodaethau gyda phartïon â diddordeb, cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol a chasglu llawer iawn o wybodaeth werthfawr.
Mae gan Fferm Wynt arfaethedig RWE hyd at 59 MW o gapasiti arfaethedig. Os caiff ei chymeradwyo, bydd hyn yn cynnwys naw tyrbin, dau gydag uchder blaen y llafnau o hyd at 200m a saith o hyd at 180m, mae potensial storio batris hefyd yn cael ei archwilio. Yn dibynnu ar y tyrbin terfynol a ddewisir, byddai'r trydan posibl a gynhyrchir yn cyfateb i anghenion hyd at 48,000* o gartrefi'r yng Nghymru.
Rhwng 10 Gorffennaf 2024 a 4 Medi 2024 gwnaethom gynnal yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio statudol sy’n ofynnol fel rhan o broses gynllunio Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC).
Statws: Yn cael ei ddatblygu