RWE yw’r cynhyrchwyr ynni mwyaf yng Nghymru, a phrif gynhyrchydd ynni adnewyddadwy'r wlad. Ar hyn o bryd, rydym ynghlwm â chynhyrchu dros 3 GW o ynni yng Nghymru ar draws 12 safle, ac mae oddeutu 1 GW ohono yn ynni adnewyddadwy. Eisoes, mae ein portffolio ynni adnewyddadwy yn cynhyrchu traean o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy Cymru – digon i bweru 550,000 o dai. Rydym yn cyflogi 300 o bobl yn uniongyrchol drwy Gymru mewn swyddfeydd pwrpasol ym Maglan, Dolgarrog a Phorthladd Mostyn, yn ogystal ag ar ein safleoedd yn ein gorsafoedd pŵer.
Dros y ddegawd ddiwethaf, mae RWE a’i bartneriaid wedi buddsoddi dros £3 biliwn i gyflawni prosiectau yng Nghymru. Mae ein buddsoddiadau mawr yn cynnwys Gorsaf Bŵer Penfro 2.2 GW, a Fferm Wynt ar y Môr, Gwynt y Môr, gwerth £2biliwn. Yn ystod adeiladu safle Gwynt y Môr, cynhyrchwyd 700 o swyddi, gyda chant o swyddi sgiliau uchel wedi cael eu creu yn yr hirdymor. Buddsoddwyd £250 miliwn arall ar brosiectau gwynt ar y tir yng Nghoedwig Gorllewin Brechfa, Coedwig Clocaenog a Mynydd y Gwair.
Mae RWE yn rhedeg chwech o orsafoedd ynni dŵr yng Ngogledd Cymru o’r ganolfan Gweithrediadau a Chynnal (GaCh) yn Nolgarrog, sy’n darparu 45 MW o ynni a chyfanswm capasiti storio ynni o 4,800 MWh.
Lleolir canolfan GaCh RWE o’r radd flaenaf ym Mhorthladd Mostyn, lle mae tîm o fwy na chant yn rhedeg fflyd gwynt ar y môr Cymru, gan gynnwys Gwynt y Môr (576 MW), Gwastadeddau’r Rhyl (90 MW) a North Hoyle (60 MW).
Caewyd ein gorsaf ynni glo ddiwethaf yn y DU, yn Aberddawan yng Nghymru, ym mis Mawrth 2020 ar ôl bron i 60 mlynedd o gynhyrchu.