* Llun o Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Cymru yw’r uchod
Mae RWE yn y broses o ddatblygu cynnig diwygiedig ar gyfer Fferm Wynt Carnedd Wen, yng Nghoedwig Llanbrynmair, coedwig fasnachol yng ngogledd-orllewin Powys.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi datblygu strategaethau mewn ymateb i newid hinsawdd, ac mae gan y cynnig hwn y potensial i wneud cyfraniad sylweddol tuag at gyflawni targed Cymru o fod yn sero net erbyn 2050.
Bydd RWE yn buddsoddi mewn cymunedeau lleol drwy gynnig pecyn buddion cymundeolcymunedol ac mae’n agored i ystyried modelau perchnogaeth neu ran-berchnogaeth lleol.
Mae cyfleon ar gyfer adfer mawndir hefyd yn cael eu hymchwilio.
Hanes y prosiect
Cyflwynodd RWE gais blaenorol i ddatblygu Fferm Wynt Carnedd Wen yn 2008.
Yn dilyn cyfnod maith yn y system gynllunio ac er i Arolygydd Cynllunio argymell cymeradwyo’r cais, cafodd y cais ei dynnu yn ôl yn 2020 oherwydd newidiadau sylweddol yn y diwydiant gwynt ar y dtir ers ei gyflwyno.
Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol cyn ymgeisio tair wythnos o hyd ym mis Tachwedd 2024 ar gyfer y prosiect diwygiedig, gyda ac mae gwybodaeth am y prosiect a rannwyd bryd hynny ar gael ymayn yr adran ‘Gwybodaeth ddefnyddiol’ isod.
Hoffai RWE ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i fynychu un o'r digwyddiadau ymgynghori, siarad â'r tîm, edrych ar y deunydd ar-lein a chynnig adborth.
Mae'r holl adborth wedi'i adolygu'n ofalus gan dîm y prosiect a bydd yn cael ei ystyried wrth i'r prosiect barhau i gael ei ddatblygu.
Y camau nesaf
Mae RWE yn parhau i gynnal arolygon ac asesiadau. Ar hyn o bryd, disgwylir i’r Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio statudol ar y datblygiad arfaethedig gael ei gynnal yn hydref/gaeaf 2025, pan fydd RWE yn cyhoeddi’r Datganiad Amgylcheddol drafft llawn, yn ymgynghori â’r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol, ac yn cynnal digwyddiadau arddangos pellach yn yr ardal leol.


Ffeithiau a ffigurau
yn y cynllun presennol
uchafswm uchder i flaen y llafnau
o gapasiti gosodedig
Dogfennau defnyddiol



